Dafydd Iwan (Caeathro)

Teitl: Diwylliant Cymru – Diwylliant Gwirfoddol?

Pwy yw Dafydd? Gwleidydd, pregethwr cynorthwyol, canwr poblogaidd a chyfansoddwr caneuon, awdur a chyfarwyddwr busnes.

Elin Rhys (Solfach)

Teitl:  Fydd y chwyldro ddim ar y teledu – yr her o gyflwyno argyfwng yr hinsawdd i gynulleidfa eang

Pwy yw Elin? Cynhyrchydd rhaglenni gwyddonol; sylfaenydd a chyfarwyddwr cwmni cyfryngol Telesgop.

Duncan Brown (Waunfawr)

Teitl: Fy Nghymru i yn yr Argyfwng Hinsawdd

Pwy yw Duncan? Naturiaethwr, cyflwynydd radio, golygydd y cylchgrawn Llên Natur, bathwr enwau Cymraeg ar rywogaethau amrywiol, ac yn cyn-golofnydd rheolaidd i’r Cymro.

Grant Peisley (Awstralia)

Teitl: Newid Hinsawdd – Nid oes angen consensws gwyddonol

Pwy yw Grant? Entrepreneur cymdeithasol, ymarferydd lleoliaeth ac ymgynghorydd cymunedau cynaliadwy. Ef yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) ac YnNi Teg, ymhlith eraill.

Erin Owain (Rhuthun)

Teitl: Y Gymru Newydd: Sicrwydd mewn ansicrwydd.

Pwy yw Erin? Asesydd risg newid hinsawdd gyda cwmni Acclimiatise yng Nghaerdydd.

Guto Owen (Yr Wyddgrug)

Teitl: Hwyl fawr Carbon. Helo Hydrogen.

Pwy yw Guto? Cefnogwr brwd o ynni adnewyddol sydd wedi bod yn disgwyl 20+ mlynedd i hydrogen fod yn rhan allweddol o’r jigsô. O’r diwedd, mae o!